top of page
llinellau cefndir glas.png

Chwarel Carreg Plas

IMG_1543.JPG.jpg
Chwarel Carreg Plas

‘For monumental work this stone will take its place in the front rank, and be a credit to Wales.’ 

 

Capten Trevethan , The Stone Trade Journal, 1904 

​

Nepell o Garmel hefyd mae safle Chwarel Carreg Plas.

​

Y peiriannydd mwyngloddiol Capten J. Trevethan o’r Rhyl ddarganfyddodd iasbis ar y safle, ac agorwyd y chwarel yn swyddogol yn 1904. 

​

Mae’n debyg nad oedd y trigolion lleol yn sylweddoli eu bod yn troedio ar gymaint o gyfoeth naturiol, yn meddwl nad oedd y tirwedd gwahanol oddi tanynt yn ddim byd mwy na gwenithfaen coch. â€‹

Dyma’r tro cyntaf erioed i iasbis gael ei ddarganfod ar Ynysoedd Prydain. Ar y pryd credir i’r rhan fwyaf o’r cyflenwad ddod o’r India a’r Aifft. Roedd y darganfyddiad yma ar Fynydd Carreg wir yn berl. 

 

Wrth droedio’r tir o amgylch Plas Carmel, fe welwch wrth sbio’n ofalus bod gwythien iasbis i’w weld o’n cwmpas ni ym mhob man, yn cuddio mewn ambell wal mewn cloddiau, yn trigo ar draethau ac ar waliau tai. Cochni’r garreg arbennig hon sydd wedi bod yn sylfaen i liw a chymeriad Plas Carmel.

​

DSC_0726 (2).JPG

Roedd y safle’r chwarel ei hun tua 450 acer, yn ymestyn am 4 milltir ar hyd yr arfordir ac yn gyfoeth o fwynau. Disgrifiodd Capten Trevethan yr iasbis fel ynysoedd yn esgyn o’r môr, yn olygfa i’w hedmygu, hyd yn oed yn ei chyflwr garw. Roedd yn amlwg bod potensial pellgyrhaeddol i ddiwydiant y chwarel. 

 

Wrth ddechrau hysbysebu’r Iasbis Cymreig roedd balchder yn y ffaith ei fod yn un o’r cerrig cryfaf a chaletaf yn bod. Roedd tua tua pum gwaith yn gryfach na gwenithfaen. 

​

Roedd cyffro mawr ym myd pensaernïaeth a sawl pensaer yn dangos diddordeb gan bod y cyfuniad o’i gryfder a’i liw godidog yn ei wneud yn ddeunydd delfrydol ar gyfer adeiladwaith.

Roedd hyder y byddai iasbis Carreg Plas yn hawlio ei le yn adeiladau’r dyfodol. Nid oedd yn syndod felly bod iasbis Carreg Plas yn sefyll yn gadarn ar un o strydoedd enwocaf Llundain. 

​

Symudwyd cangen Pen Gorllewinol banc Norwich Union i adeilad mawreddog newydd ar gornel stryd Piccadilly a St James. Agorwyd yr adeilad yn swyddogol yn 1908 a chafodd ei ddisgrifio yng nghylchgrawn staff y banc fel

​

“un o’r safleoedd pwysicaf ym Mhen Gorllewinol Llundain” ac “yn un o’r adeiladau harddaf yn yr ardal gyda iasbis a gwaedfaen, math unigryw o addurniadau, a cherflun efydd wedi’i ategu ato i greu dyluniad mawreddog a dilychwin.” 

SKM_C335121021715392.jpg
bottom of page