
Hanes Lleol
Hanes yr ardal leol
Mae hanes ardal Carmel yn gyfuniad cyfoethog o straeon am bobl, tir a môr, hanes crefyddol a chwedloniaeth.
Dyma flas o’r hyn sydd i’ch disgwyl ym Mhlas Carmel. Bydd rhaid i chi ddod draw i’n gweld i gael yr hanes yn ei gyfanrwydd!

Dic Aberdaron
Dafliad carreg o Garmel safai Cae’r Eos, cartref Dic Aberdaron. Er ei fod yn ffigwr adnabyddus ar hyd a lled Cymru a thu hwnt fel crwydryn a ieithydd unigryw mae yma le canolog i hanes Dic ym Mhlas Carmel.

Llwybr y Pererinion
Mae Llwybr y Pererinion yn nadreddu heibio Plas Carmel. Ganrifoedd yn ôl byddai’r llwybr yn brysur pan gerddai’r pererinion ar ei hyd i Aberdaron a chroesi’r swnt i Enlli. Heddiw mae pererinion modern yn cerdded ar hyd llwybr arfordir enwog Llŷn.

Porth Wisgi
Mae Llwybr Arfordir Llŷn hefyd yn lwybr gwerthfawr i drigolion lleol ac yn denu ymwelwyr dros y byd drwy gydol y flwyddyn. Mae’n amhosib i beidio dotio at draethau euraidd Llŷn a chreigiau geirwon yr arfordir. Ond yr hyn sy’n cyfoethogi’r llefydd hyn yw’r straeon sydd ynghlwm ȃ nhw. Mae yna docyn o straeon am y môr ym Mhlas Carmel, ond ymhlith y dyfirraf yw stori Porth Wisgi.
Capel Anelog
Bu Capel Anelog unwaith yn swatio wrth droed Mynydd Anelog, ond does dim olion i’w gweld heddiw. Roedd ei safle ddiarffordd yn siŵr o fod yn atynfa i’r hen seintiau gael addoli mewn heddwch.
Yma canfuwyd dwy garreg o bwys yn y 18fed ganrif. Beddfeini o’r 6ed ganrif i goffáu dau offeiriad Cristnogol.

Chwarel Carreg Plas
Nepell o Garmel hefyd mae safle Chwarel Carreg Plas. Y peiriannydd mwyngloddiol Capten J. Trevethan o’r Rhyl ddarganfyddodd iasbis ar y safle, ac agorwyd y chwarel yn swyddogol yn 1904.