top of page
llinellau cefndir glas.png

CROESO I PLAS CARMEL

siop plas 2.png

Dyma brosiect cymunedol sydd am adfywio’r safle lle saif Capel Carmel a hen Siop Plas, i fod yn hwb gymdeithasol fywiog unwaith eto. Ein nod yw gwneud defnydd sensitif o’r capel, tÅ·, siop a’r ardd i greu adnodd treftadaeth cynaliadwy a gweld bywyd unwaith eto yn y ‘capel bach gwyngalchog ym mhellafoedd hen wlad LlÅ·n’ a welodd Cynan.

 

Mae’n anhygoel bod cymaint o gyfoeth hanesyddol a diwylliannol amrywiol yn perthyn i filltir sgwâr Plas Carmel. Ein gweledigaeth yw i gasglu a gwarchod y storiau hyn a’u pasio nhw ymlaen i’r cenedlaethau ifanc, tra’n gwneud lle i rhai newydd. Yma, rydym yn pontio gwerth canrifoedd o hanes a straeon lleol gyda’n byd ni heddiw, a’r rheiny yn rhan annatod o fywydau’r trigolion lleol. O lwybrau’r Seintiau a’r Pererinion i lwybrau Dic Aberdaron, dewch ar daith i Blas Carmel, ble mae tirwedd a daeareg yn cwrdd â hud a chwedlau lleol. Ein gobaith ydi y bydd straeon Plas Carmel yn aros efo chi am amser hir, os nad am byth.

bottom of page