Y Prosiect
Yr hanes yn gryno
Yn 1843, cafodd y safle ei roi ar les am 999 mlynedd i Ymddiredolwyr Capel Carmel. Ar ôl i’r tenant olaf Thomas John Jones ymddeol o’r siop ac ymadael â’r tŷ, dechreuodd yr adeilad ddirywio a phenderfynwyd bod rhaid gweithredu i’w diogelu cyn iddi fynd yn rhy hwyr. Yn 2014 sefydlwyd pwyllgor lleol i ofalu am y gwaith.
Y gwaith hyd yma
Cynhaliwyd nifer o weithgareddau lleol i godi arian. Defnyddiwyd yr arian hwn i ail doi adeilad y Capel a’r tŷ.
Yn 2017 derbyniwyd grant o Gronfa Datblygu Cynaliadwy Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn. Cafwyd yn ogystal gefnogaeth ariannol gan Cadw, Cronfa Buddsoddi Cymunedol a Chronfa Dreftadaeth y Loteri, Uned leol yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, y Gronfa Buddsoddi Cymunedol ac Ymddiriedolaethau Elusennol.
Bu dwy flynedd o waith caled gyda’r gwaith datblygol, cyflwyno cais lwyddiannus i Raglen Cyfleusterau Cymunedol, Llywodraeth Cymru tuag at isadeiledd, dod â thrydan i’r safle, yn ogystal ag elfennau cymunedol ac allanol megis tirlunio, man parcio a gwaith dehongli allanol.
Yn 2020 dechreuwyd ar y gwaith adeiladu i adfer Siop Plas, yn ogystal â’r gwaith dehongli tu allan. Bydd caffi Siop Plas yn barod i agor yn mis Hydref 2021.
Cynlluniau ar gyfer y dyfodol
Mae’r tŷ capel o’r enw Plas sydd dan yr unto â’r capel wedi ei restru fel adeilad Gradd II. Byddwn yn cyflwyno cais i Gronfa Dreftadaeth y Loteri nesaf, tuag at adfer yr hen gapel a'r Ty Capel a chyflogi Swyddog Addysg a Gwirfoddoli rhan amser.