top of page
llinellau cefndir glas.png

Llwybr y pererinion

Enlli.jpg
Llwybr y Pererinion

20,000 o Saint, dywedir, sydd wedi eu claddu ar Ynys Enlli. 

Mae’n ddelwedd anhygoel, sy’n gwneud i rywun feddwl bod pob modfedd o’r ynys ddihafal yma yn sanctaidd a chysygredig. Pen y daith i sawl pererin oedd cyrraedd Enlli.

Ond i’r Celt roedd ‘sant’ yn enw a roddid i Gristion neu aelod o lwyth eglwysig. Yn yr Eglwys Ladinaidd roedd ‘sant’ yn deitl o statws anrhydeddus. Ni lwyddodd crefydd yr Eglwys Ladinaidd gyrraedd Llŷn yn yr un modd â dylanwad yr Eglwys Geltaidd. O Iwerddon, Llydaw a Chernyw  daeth y grefydd newydd yma gan y Cristnogion cynnar. 

Yn y 5ed ganrif sefydlwyd cymuned feudwyaidd yn Aberdaron a hynny yn ardal Capel Anelog yng nghyfnod cynnar yr Eglwys Geltaidd. 

 

Mae gwaddol y seintiau i’w weld o hyd yn Llŷn, gyda sawl eglwys, pentref a ffynhonau wedi eu henwi ar eu holau.

Llechen Llwybr Pererinion .jpg
bottom of page