top of page
llinellau cefndir glas.png

Porth Wisgi

Porth Wisgi

Yn y flwyddyn 1901, newidiwyd enw Porth Tŷ Mawr ar lafar i Borth Wisgi. Mae hanes llongddrylliad y Stuart, neu’r “llong wisgi” yn chwedlonol yma yn Llŷn.

 

Dydd Gwener y Groglith 1901 (Ebrill y 5ed)  gadawodd y Stuart ddociau Lerpwl. Robert Logan Mitchinson, dyn 29 oed o Hull oedd y Capten a roedd criw o 19 ganddo. Wellington, Seland Newydd oedd pen taith Y Stuart i fod, gyda’r bwriad o gludo dros fil o dunnelli o gargo.

Ni chyrhaeddodd y Stuart Seland Newydd, ond yn hytrach greigiau Porth Tŷ Mawr.

Cryfhaoedd y gwynt yn y dyddiau wedyn a rhoddodd hynny ddiwedd ar ymdrechion y criw i achub y cargo. Lledaenwyd y cargo ar hyd y traeth- y rhan fwyaf ohono yn ddiodydd meddwol. Tydi’r cofnodion swyddogol ddim yn gwneud cyfiawnder â’r hyn ddigwyddodd ar y traeth, a’r trigolion lleol yn mynd yn wirion bost wrth gymryd mantais o’r poteli wisgi.

 

Parhaodd y dathlu ar hyd yr haf i’r trigolion lleol, ond chwe mis wedi’r llongddrylliad bu ymchwiliad, a chollodd y Capten ei drwydded am chwe mis, a’r Mêt ei drwydded am dri mis. Beth berodd i’r llongdrylliad ar noson ddistaw ym mis Ebrill?

Cred rhaid bod y metal yng nghreigiau melyn Maen Mellt wedi effeithio ar gwmpawd y llong- fel y bu yn achos Y Sorrento. Ond cred y rhan fwyaf o’r trigolion lleol yw bod y cargo wedi bod yn ormod o demtasiwn i’r morwyr ifanc!

bottom of page