top of page
llinellau cefndir glas.png

Dic Aberdaron

Dic_Aberdaron_1823.jpg
Dic Aberdaron

Mae delwedd Dic yr un mor gyfarwydd â’i ddawn gydag ieithoedd. Meddai ar bob nodwedd oedd gan drempyn. Roedd barf trwchus ganddo, ambell dro byddai’n droednoeth a’i draed yn fudr. Gwisgai siaced Dragoon las llachar gydag ysgwyddarnau arian arno, het o groen sgwarnog, corn hwrdd o gwmpas ei wddf a thelyn fach. Gan gynnwys ei lyfrau a’r cathod gwyllt fyddai’n ei ddilyn, cariai ei holl eiddo ar ei gefn.

dic-berdaron-william-roos-oriel-800.x8f7

Treuliodd weddill ei oes yn ddi-waith, yn crwydro ar hyd y wlad yn dysgu ieithoedd newydd, cyfieithu llyfrau, a gweithio ar brojectau llenyddol byrhoedlog.

 

Y gred gyffredin yw bod Dic yn medru siarad 14 o ieithoedd ond mae’n debyg iddo fod yn stwna â sawl iaith arall hefyd.

 

Dirywiodd iechyd Dic a bu farw ar yr 18fed o Ragfyr, 1843 yn 63 mlwydd oed heb geiniog i’w enw, ond y llyfrau yn ei bocedi carpiog. Er ei fod yn anffyddiwr, claddwyd ef gan fonheddwr o’r ardal ym mynwent eglwys Santes Fair yn Llanelwy, Sir Ddinbych. Ar y garreg fedd mae englynion gan Talhaiarn ac Ellis Owen.

 

Mewn cymuned ble mae’r iaith Gymraeg yn ganolbwynt yn ein bywydau, mae Dic Aberdaron wir yn ysbrydoliaeth i weld gwerth a phleser ym mhob iaith.

bottom of page