top of page

Caffi Siop Plas
Mae Caffi Siop Plas yn rhan bwysig o brosiect Plas Carmel, gan mai yma mae pobl yn dod ynghyd i gyfarfod a sgwrsio dros baned, cacen neu bryd blasus.
Agorwyd Caffi Siop Plas ym mis Hydref 2021 dan lyw Ffion Enlli a Coco Bourret - y ddau hefyd yn aelodau o bwyllgor Plas Carmel.
Mae'r fwydlen yn dilyn y tymhorau, a'r cynnyrch lleol, safonol yn rhan greiddiol o ethos y caffi.
O Lydaw i Lŷn, yr ysbrydoliaeth ddiweddaraf yw'r Gallettes sawrus - neu 'Krampouezh gwinizh du' yn Llydaweg... heb anghofio'r crêpes melys wrth gwrs!

bottom of page