Siop Plas a'r Caffi
Hanes Siop Plas
Roedd Siop Plas yn ei anterth yn llawer mwy na siop mewn gwirionedd; roedd yn fan cyfarfod i nifer o drigolion Anelog ac yn ganolfan gymdeithasol bwysig i’r ardal. Y nod yw ein bod yn ei hadnewyddu i fod yn union hynny: yn hwb cymunedol bywiog a chynaliadwy i’r gymuned.
Cwt sinc traddodiadol yw’r siop, ond er bod ei chragen yn newydd, mae’r gwaith pren ar y tu mewn yn wreiddiol ac wedi cadw peth awyrgylch siop gefn gwlad draddodiadol.
Beth Fydd yn Siop Plas?
Caffi
Yn agor yn mis Hydref, bydd y caffi yn le bywiog a chroesawgar ac yn fan cyfarfod i’r gymuned, yn union fel yr oedd Siop Plas yn ei anterth.
Bydd yn ofod hygyrch ar gyfer gweithio, ymlacio neu synfyfyrio gydag awyrgylch hamddenol a braf.
Bydd bwydlen o safon yn gwneud y gorau o’n cynnyrch lleol.
Gofod i'r gymuned
Bydd Siop Plas hefyd yn ofod hyblyg ar gyfer defnydd cymunedol, boed yn gyfarfodydd, digwyddiadau cymdeithasol, gweithdai neu ddigwyddiadau treftadaeth a diwylliannol.
Cysylltwch gyda ni os yr ydych yn chwilio am ofod i gynnal digwyddiad.
Siop Fach
Bydd hefyd siop fach sy’n rhoi cyfle i grefftwyr a thrigolion lleol arddangos a gwerthu eu cynnyrch.
Cornel Hanes
Bydd cornel fach yn adrodd a dehongli straeon a hanesion lleol i’w defnyddio fel y mynnoch.
Bydd iPad a sgrin yn dehongli’r hanes yn ddigidol, a bydd yno hefyd wirfoddolwyr yn barod i gael sgwrs ac i fod o help llaw.